Setiau a grwpiau cymdeithasol moch daear

Ym Mhrydain, mae moch daear yn byw mewn grwpiau cymdeithasol sy’n rhannu tiriogaeth maent yn ei hamddiffyn. Fel arfer, mae gan bob tiriogaeth o leiaf un brif set yn ogystal â nifer o setiau bach, llai prysur. Mae moch daear yn nodi ffiniau eu tiriogaeth â charthfeydd. Mae’r setiau i’w gweld yn bennaf mewn coedwigoedd a chloddiau gwrychoedd, ac ar hyd ymylon caeau. Mae moch daear fel arfer yn chwilota am fwyd ar borfa a choetiroedd agored, gan fwyta mwydod yn bennaf.

Ar gyfartaledd, mae mochyn daear gwyllt yn byw rhwng tair a phum mlynedd.. Mae mwy o foch daear gwyllt yn cael eu lladd gan draffig y ffordd fawr na chan unrhyw beth arall.

Faint o foch daear sydd yna yng Nghymru?

Mae moch daear yn anifeiliaid y nos sy’n byw dan ddaear ac felly mae’n anodd iawn amcangyfrif eu niferoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd gennym am niferoedd a gwasgariad moch daear yng Nghymru yn dod o dri arolwg cenedlaethol o setiau moch daear a gynhaliwyd rhwng 1985 a 1987, 1994 a 1997, a 2011 a 2013. Am mai arolygon o setiau moch daear oedd y rhain, amcangyfrif o nifer y grwpiau cymdeithasol a gafwyd yn hytrach na nifer y moch daear. Yn ôl yr arolwg diweddaraf, amcangyfrifir bod 7,300 o grwpiau cymdeithasol o foch daear yng Nghymru.

Yn yr 1980au, amcangyfrifwyd bod 5.9 o foch daear llawn dwf ar gyfartaledd ym mhob grŵp cymdeithasol ym Mhrydain. Trwy luosi hynny â nifer y grwpiau cymdeithasol, amcangyfrifwyd bod rhyw 35,000 o foch daear llawn dwf yng Nghymru ar y pryd. Gwelwyd o’r ddau arolwg dilynol mai ychydig o newid a fu o ran niferoedd y grwpiau cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, gall maint y grwpiau cymdeithasol amrywio’n fawr ac nid oes gennym unrhyw amcangyfrifon cyfredol dibynadwy o nifer cyfartalog y moch daear ym mhob grwp cymdeithasol yng Nghymru. Nid oes modd darparu amcangyfrif o nifer y moch daear yng Nghymru ar hyn o bryd.

Nid yw moch daear yn rhywogaeth sydd mewn perygl, ond mae cyfraith y DU ac Ewrop yn eu hamddiffyn rhag cael eu herlid.

Twbercwlosis gwartheg mewn moch daear

Gall TB Gwartheg effeithio ar bob mamal, gan gynnwys moch daear. Cafwyd tystiolaeth o gysylltiad rhwng TB buchol mewn moch daear a gwartheg ers darganfod corff mochyn daear wedi’i heintio yn Swydd Gaerloyw yn 1971. Mae’r dystiolaeth yn cynnwys y canlynol:

    • mae’r haint yn fwy cyffredin mewn moch daear na mamaliaid gwyllt eraill
    • mae cysylltiad rhwng lefelau uchel o’r haint mewn moch daear ag ardaloedd gyda lefelau uchel o’r haint mewn gwartheg
    • yn ôl arolwg o foch daear marw yng Nghymru a gynhaliwyd rhwng 2005 a 2006 roedd y gwasgariad daearyddol o fathau molecwlar o Mycobacterium bovis (y bacteriwm sy’n achosi TB Gwartheg) a ganfuwyd mewn moch daear yn debyg i’r hyn a ganfuwyd mewn gwartheg
    • mae arbrofion wedi profi y gall moch daear drosglwyddo TB buchol i wartheg.

Nid yw TB yn lladd niferoedd mawr o foch daear. Mae moch daear sydd wedi’u heintio’n gallu byw am sawl blwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd eu gallu i heintio anifeiliaid eraill yn amrywio.

Cyswllt rhwng gwartheg a moch daear

Gall gwartheg gael eu heintio trwy ddod i gysylltiad agos ag anifeiliaid eraill sydd wedi’u heintio, boed yn foch daear neu’n wartheg eraill, neu ddeunydd sydd wedi’i heintio, fel porfa, pridd neu borthiant. Mae moch daear yn ymweld yn rheolaidd â buarth ffermydd i chwilota am fwyd a gwasarn. Fe’u gwelwyd yn gadael eu carthion a’u wrin ar borthiant gwartheg ac yn dod i gysylltiad uniongyrchol â gwartheg dan do, gan greu perygl amlwg o ledaenu’r clefyd.

Gall moch daear ddod i gysylltiad â gwartheg ar y caeau hefyd, er bod hyn yn anghyffredin yn ôl pob tebyg. Mae’n fwy tebygol bod gwartheg yn dod i gysylltiad â charthion neu wrin moch daear, all arwain at fwy o risg o ledaenu’r clefyd. Mae’r organeb sy’n achosi TB Gwartheg wed’i ganfod yn y pridd o gwmpas setiau moch daear. Gall gwartheg felly ddod i gysylltiad â deunydd heintus os ydyn nhw’n gallu mynd at y setiau hyn. Hefyd, mae gwartheg wedi’u gweld yn ffroeni moch daear marw.

Cyfrannu at TB mewn gwartheg

Bu’n anodd cael gwared ar y clefyd o fuchesi mewn ardaloedd o Gymru lle mae moch daear yn cario’r haint. Nid yw cynnal profion a difa’r gwartheg sydd wedi’u heintio ynddo’i hun yn debygol o ddileu’r haint yn y fuches, pan fydd yn cael ei ailheintio gan foch daear. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd iawn rheoli’r clefyd ac yn amhosib cael gwared arno’n llwyr.

Heintio gan foch daear

Mae lledaeniad y clefyd TB yn cael ei gymhlethu gan y ffaith bod y clefyd hefyd yn gallu bod yn bresennol mewn bywyd gwyllt, yn enwedig moch daear. Gall gwartheg ac anifeiliaid gwyllt heintio’i gilydd.

Mae ymchwil wedi dangos bod moch daear yn mynd i adeiladau ffermydd yn rheolaidd ac yn dod i gysylltiad agos â gwartheg sydd dan do. Mae rhai bwydydd gwartheg fel india corn neu silwair cnwd cyfan, tafelli triagl, a blociau mwynau, yn arbennig o ddeniadol i foch daear. Mae rhai systemau ffermio’n golygu bod moch daear yn gallu mynd at y bwyd yn hawdd, all gynyddu’n ddirfawr y risg o gyflwyno TB i’r fuches.

Dyma rai camau synhwyrol y gallwch eu cymryd i helpu i ddiogelu’ch buches rhag y posibilrwydd o gael haint TB gan foch daear.

Stordai porthiant, siediau gwartheg a buarth y fferm

      • gall defnyddio gatiau/ffensys solet neu ffensys trydan helpu i gadw
      • moch daear allan o adeiladau dylai unrhyw fwlch rhwng gatiau/ffensys â’r ddaear fod yn llai na 7.5cm; fel arall gall mochyn daear fynd oddi tanynt
      • os bydd y ddaear yn feddal, bydd mochyn daear penderfynol yn ei grafu nes bod y bwlch yn ddigon mawr iddo fynd trwyddo
      • dylai gatiau a waliau fod yn 1.5 metr o uchder o leiaf. Dylai’r wyneb fod yn llyfn. Bydd unrhyw droedleoedd posib yn golygu y gall mochyn daear ddringo drostynt
      • dylai fod tri llinyn ar ffens drydan ar uchder o 10cm, 15cm, a 20cm (gyda’r opsiwn o bedwerydd llinyn ar uchder o 30cm)
      • yn aml bydd moch daear yn dychwelyd i ail-archwilio mannau lle nad ydynt wedi llwyddo i gael mynediad yn y gorffennol.

Porfeydd

      • byddwch yn ymwybodol o fannau risg uchel, e.e. carthfeydd moch daear a setiau sy’n cael eu defnyddio. Dylech ystyried codi ffens barhaol neu dros dro i rwystro’r gwartheg rhag mynd atynt.
      • gall pori dwys/estynedig annog gwartheg i fwyta ar ymylon caeau, lle mae’r risg o heintiad gan garthion ac wrin moch daear mewn carthfeydd yn uwch
      • dylech gadw gwartheg draw o goetir
      • mae’n anodd iawn atal moch daear rhag mynd at gafnau bwyd ar dir pori. Dylech wneud hi’n anoddach i foch daear fynd at gafnau bwyd mewn caeau drwy eu codi oddi ar y ddaear, er enghraifft, neu ddefnyddio cafnau sydd â roleri ar eu hymylon
      • gall bywyd gwyllt halogi cafnau bwyd. Cadwch lygad am arwyddion o’r fath, gan lanhau cafnau bwyd yn rheolaidd
      • dylech wneud hi’n anoddach i foch daear fynd at dafelli triagl a blociau mwynau drwy eu codi oddi ar y ddaear.

Fideos gwella bioddiogelwch ffermydd

Mae cyfres o fideos ar gael sy’n dangos mesurau bioddiogelwch ymarferol ar y fferm i leihau risgiau TB gwartheg o du bywyd gwyllt. Mae’r fideos wedi’u hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig , Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS). Mae’r fideos ar gael isod:

  • Map Milfeddygol

  • Byrddau Dileu

Digwyddiadau