Beth yw TB Gwartheg?

Achosir TB mewn gwartheg gan y bacteriwm Mycobacterium bovis. Gall effeithio ar bobl yn ogystal ag anifeiliaid, ond cedwir y perygl i iechyd cyhoeddus yn isel drwy brofi gwartheg yn gyson, pasteureiddio llaeth ac archwilio lladd-dai.

Mae TB yn glefyd sy’n effeithio’n bennaf ar system anadlu gwartheg. Mae’r clefyd yn fwyaf tebygol o gael ei ledu rhwng anifeiliaid heintiedig ac anifeiliaid nad ydynt wedi’u heintio yn ystod cyfnodau o gyswllt agos, yn enwedig pan mae gwartheg dan do. Gall y bacteriwm hefyd dreiddio i’r corff drwy amlyncu a gall yr haint fod yn bresennol mewn tail a slyri, llaeth, ac ambell waith, wrin. Yn y DU ni welir arwyddion clinigol yn aml oherwydd symudir y gwartheg cyn iddynt ddatblygu unrhyw arwyddion o salwch. Gall yr arwyddion gynnwys:

  • peswch cronig
  • mastitis
  • colli pwysau.

Yn dilyn heintiad, gall gymryd misoedd neu flynyddoedd i’r haint ddod i’r amlwg. Gall gwartheg sydd wedi’u heintio ledu’r haint ymhell cyn iddynt ddangos unrhyw arwydd eu bod yn sâl. Mae rheoli a dileu’r clefyd yn dibynnu ar ganfod anifeiliaid heintiedig yn gynnar a’u symud cyn iddynt fynd yn sâl.

Moch daear

Gall anifeiliaid gwyllt fel moch daear hefyd gael eu heintio, a gall gwartheg a moch daear heintio’i gilydd. Credir mai pur anaml y bydd unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng moch daear a gwartheg sy’n pori, ond gall moch daear sy’n ymweld ag adeiladau fferm gynyddu’r risg o ledu’r clefyd.

Anifeiliaid eraill

Er bod y clefyd yn bodoli’n bennaf mewn gwartheg a moch daear, mae hefyd yn effeithio ar anifeiliaid dof ac anifeiliaid gwyllt fel:

  • camelidau (lamas, alpacas, gwanacos a vicunas)
  • ceirw
  • geifr
  • defaid
  • moch
  • baedd gwyllt
  • cathod
  • cŵn.

Bwrdd y Rhaglen Dileu TB

Goruchwylir y Rhaglen Dileu TB yng Nghymru gan Fwrdd y Rhaglen Dileu TB. Mae’r Bwrdd yn darparu cyfarwyddyd a rheolaeth gyffredinol o’r rhaglen. Cadeirir y bwrdd gan Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol. Mae’r bwrdd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r canlynol:

  • y diwydiant ffermio
  • y proffesiwn milfeddygol
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Llywodraeth Cymru.

Byrddau Rhanbarthol Dileu TB

Yn ogystal, sefydlwyd tri Bwrdd Dileu TB Rhanbarthol yn 2008 i sicrhau dulliau gwaith effeithiol sy’n adlewyrchu amodau lleol. Mae’r byrddau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant ffermio, megis:

    • ffermwyr
    • milfeddygon
    • arwerthwyr
    • Adrannau Safonau Masnach cynghorau lleol
    • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Os hoffech chi gysylltu â’ch bwrdd rhanbarthol lleol ebostiwch: Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

  • Map Milfeddygol

  • Byrddau Dileu

Digwyddiadau

  • No events